Llwybr Dyffryn Gwy Y cyfuniad perffaith, cerdded ar hyd y bryniau a'r afonydd

 


Ffeil ffeithiau

Ffeil ffeithiau

Lleoliad: Ffiniau Lloegr/Cymru.

Hyd: 136 milltir (218 km)

Amser i’w gwblhau: 12 diwrnod o un pen i’r llall (os ydych chi’n weddol ffit).

Mannau cychwyn a gorffen: Cerrig yn arwyddo’r ffordd yng Nghastell Cas-gwent neu faes parcio Rhyd-y-benwch, Coedwig Hafren.

Mannau uchaf: Ger Bryn Nantyrhendy, 1,575tr (480m). Bryn Merbach , 1,043tr (318m)

Cyfanswm y disgyniad: Mae’r afon yn disgyn 2,230tr (680m) o’r tarddle i’r môr.

Tirwedd: Amrywiol iawn. Ceunant coediog iawn; glannau afon, dolydd; coedlannau dail llydan; perllannau a thir âr; bryniau, mynyddoedd a gweundir agored.

A view of the upper Wye Valley in Powys

Uchafbwyntiau: Castell Cas-gwent; troedffyrdd a golygfannau ‘Godidog’; ymhlith y coetiroedd mwyaf pwysig yn Ewrop; Abaty Tyndyrn; golygfan Yat Rock; Castell Gwydris; bryngaer Capler; perllannau ac afalau; siopau llyfrau Y Gelli Gandryll; dyfroedd gwyllt Creigiau Penddol; tŷ hir canoloesol Gilfach; ystlumod, boncathod, clychau gleision, hebogau tramor a barcutiaid coch.

Cysylltiadau Enwog: Yn ôl pob sôn, mae tywysog gwrthryfelgar Cymru, Owain Glyndŵr wedi ei gladdu ym Monnington. Cafodd Harri’r Pumed a ymladdodd yn erbyn Glyndŵr, ac sy’n enwog am orchfygu’r Ffrancwyr yn Agincourt, ei eni yn Nhrefynwy. O Landogo, fe wnaeth y bardd William Wordsworth, ysgrifennu barddoniaeth am Dyndyrn. Bu Edward Elgar cyfansoddwr Land of Hope and Glory, yn byw yn Henffordd. Cafodd y gŵr o Fohemia Bertrand Russell y gweithredwr heddwch a’r mathemategwr a enillodd y Wobr Nobel, ei eni yng Nghleddon uwchlaw Llandogo. Roedd y dyddiadurwr Fictoraidd Francis Kilvert, yn ficer ym Mredwardine. Arferai’r dramodydd, George Bernard Shaw siglo ar ei feic o gwmpas Penallt. Fe wnaeth y Llyngesydd Horatio Nelson deithio o gwmpas Trefynwy, gan ymweld â’r arlunwyr, beirdd ac ysgrifenwyr Turner, Gray, Coleridge, Pope a Thackeray a wnaeth fynd ar daith mewn cwch ar y Gwy.

Brockhampton Church, Herefordshire

Fel set ffilm: Fe wnaeth ysgubor islaw Creigiau Coldwell a golygfan Yat Rock ymddangos yn Shadowlands, y ffilm a wnaeth bortreadu CS Lewis (Narnia) a chwaraewyd gan Anthony Hopkins, a fu’n adrodd hanes ei gariad tuag at y bardd Americanaidd, Joy Gresham, a chwaraewyd gan Debra Winger. Cafodd Castell Cas-gwent ei ddefnyddio fel Castell Nottingham yn y ddrama deledu Robin of Sherwood yn yr 1980au, gyda Michael Praed, Jason Connery a Ray Winstone. Trawsffurfiwyd glannau’r Gwy yn Foy a Hole in the Wall yn gyfnod ôl-apocolyptaidd ym Mhrydain yng nghyfres deledu Survivors gan Terry Nation (Dr Who).

Mynediad: Gorsafoedd trên yng Nghas-gwent, Henffordd a Builth Road ger Llanfair ym Muallt. Mae yna wasanaeth bysiau i’r mwyafrif o drefi a’r pentrefi ar y ffordd, gan gynnwys Tyndyrn, Trefynwy, Y Rhosan ar Wy, Y Gelli Gandryll, Rhaeadr a Llangurig a Llanidloes sydd ar ochr Ogleddol y llwybr.

Mannau i Aros: Ewch i 'Cynllunio’ch Taith' (cyswllt) am restr lawn o fannau i aros, p’un ai eich bod am gael hyd i lety pum seren neu noson dan gynfas.

Gwybodaeth a chyngor: Uned Ardal o harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Ffordd Hadnock, Trefynwy, NP25 3NG. Ffôn 01600 710846 neu e-bost: information@wyevalleyaonb.org.uk