Llwybr Dyffryn Gwy Y cyfuniad perffaith, cerdded ar hyd y bryniau a'r afonydd

 


Cludiant cyhoeddus

Mae gan rhannau o Lwybr Dyffryn Gwy wasanaethau cludiant cyhoeddus da, yn enwedig yr ardaloedd isaf lle mae yna fwy o drefi a phentrefi. Mae modd cerdded rhai hydoedd a defnyddio bysiau i ddychwelyd i’r man cychwyn.

Cysylltiadau Rheilffordd

Mae yna orsafoedd rheilffordd yng Nghas-gwent (ar ddechrau’r llwybr), Henffordd a Builth Road ym Mhowys.

I ddod o hyd i amserau ac archebu tocynnau trên cysylltwch â Trainline neu Ymholiadau National Rail 08457 484950 neu yn Gymraeg ar 0845 6040500.

Bysiau

Oherwydd bod amserau bysiau yn medru newid yn gyson, nid ydym wedi cynnwys gwybodaeth am yr amserlen bysiau ar y safle hwn. Mae modd cael hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar Traveline, dros y ffôn neu ar y we. Y cyfeiriad we ar gyfer bysiau (a threnau cysylltiol) yng Nghymru yw www.traveline-cymru.org.uk rhif ffôn 0870 6082608. Y cyfeiriad we ar gyfer bysiau a threnau cysylltiol yn Lloegr yw www.traveline.org.uk rhif ffôn 0871 2002233.

Cludiant o ddiwedd y llwybr

Mae’r llwybr yn dod i’w derfyn mewn lleoliad sy’n weddol anghysbell lle nad oes gwasanaeth bysiau. Mae yna dri opsiwn. Mae’n bosib parhau â’r daith ar Ffordd Hafren 8 milltir (12.8km) i Lanidloes, sydd â gwasanaeth bysiau da sydd yn mynd i’r orsaf rheilffordd yn Y Drenewydd. Fel arall, bydd angen dychwelyd i Langurig sydd eto ar brif lwybr bws. Mae rhai cerddwyr yn defnyddio gwasanaeth tacsi o fan olaf y llwybr yn Rhyd y Benwch i’w dychwelyd i leoliad addas sydd â gwell gwasanaethau cludiant cyhoeddus.