Llwybr Dyffryn Gwy Y cyfuniad perffaith, cerdded ar hyd y bryniau a'r afonydd

 


Yr Hanfodion

Paratowch

Mae’r tir ar Lwybr Dyffryn Gwy yn cynnwys rhannau creigiog serth, llethrau mwdlyd, ac ucheldir agored yn ogystal â chefn gwlad tonnog. P’un ai’ch bod chi’n bwriadu cerdded pum milltir neu hanner cant o filltiroedd, mae’n bwysig eich bod yn paratoi, a bod gennych yr offer cywir. Dylech wybod eich lefel o ffitrwydd, a chynllunio taith gerdded sy’n addas ar ei gyfer. Os ydych yn cerdded ar eich pen eich hun, gadewch i rywun wybod i ble yr ydych yn mynd, gan roi brasamcan o’r amser yr ydych yn disgwyl cyrraedd pen eich taith. Nid oes signal ffôn symudol da iawn mewn rhai mannau o Lwybr Dyffryn Gwy.

The Wye at Rhayader, Powys

Argymhellir yr hanfodion a ganlyn:

  • Esgidiau gwrth-ddŵr, neu esgidiau cerdded cadarn
  • Dillad gwrth-ddŵr a phac ar eich cefn
  • Bwyd, yn enwedig diod
  • Ffôn symudol a mapiau
  • Eli haul
  • Dysgwch i ddarllen map - mewn argyfwng, efallai y bydd rhaid i chi roi cyfeirnod grid i rywun sydd am wybod eich lleoliad. Gweler wefan Arolwg Ordnans am gyngor.

Canllawiau i’r Llwybr

Mae Partneriaeth Llwybr Dyffryn Gwy wedi cyhoeddi canllaw swyddogol ar gyfer Llwybr Dyffryn Gwy, o’r de (Cas-gwent) i’r gogledd (Pumlumon). Mae’n cynnwys mapiau a disgrifiadau manwl o bob rhan o’r llwybr. Mae modd ei brynu o siopau llyfrau lleol, neu ei archebu drwy’r post o’r dudalen Cyhoeddiadau ar y wefan hon.

Mynnwch fap

Mae mapiau graddfa fawr o bob rhan o’r llwybr wedi ei seilio ar gyfres Archwiliwr Arolwg Ordnans ar raddfa o 1:25,000. Mae rhestr lawn o’r mapiau sy’n ymwneud â’r llwybr fel a ganlyn:

  • ‘Explorer OL14’ – Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena.
  • ‘Explorer 189’ – Henffordd a’r Rhosan ar Wy
  • ‘Explorer 202’ – Llanllieni a Bromyard
  • ‘Explorer 201’ – Trefyclo Llanandras
  • ‘Explorer OL13’ – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Dwyrain)
  • ‘Explorer 188’ – Llanfair ym Muallt
  • ‘Explorer 200’ – Llandrindod a Chwm Elan
  • ‘Explorer 214’ – Llanidloes a’r Drenewydd.

Blossoming apple orchards, Herefordshire

Y Tywydd

Gwiriwch ragolygon y tywydd bob dydd cyn i chi ddechrau’ch taith, fel eich bod yn medru gwisgo a pharatoi’n ddigonol. Mae rhai rhannau o’r llwybr yn agored iawn i wyntoedd uchel, gydag ychydig iawn o gysgod rhag y gwynt, glaw a’r haul. Gall cyfnodau ymestynnol o law wneud rhannau o’r llwybr yn wlyb iawn dan draed, a disgwylir i’r Afon Gwy orlifo ar adegau - fel arfer ar ddiwedd yr hydref, gaeaf a dechrau’r gwanwyn. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu rhybudd ynghylch llifogydd a system wylio ar eu gwefan.

Am y rhagolygon diweddaraf ynglŷn â’r tywydd, ffoniwch y canlynol:

  • De Cymru: 09068 500409. Sir Fynwy, deialwch 9004 pan ofynnir i chi.
  • Swydd Henffordd, Swydd Amwythig a Swydd Caerwrangon: 09068 500410. Henffordd, deialwch 1103. Am y Rhosan ar Wy deialwch 1105.
  • Canolbarth Cymru: 09068 500414. Llanfair ym Muallt, deialwch 1408

Mae galwadau’n costio 60c y funud o linell yn y DU.

Os oes gennych chi fynediad i’r we cyn cychwyn ar eich taith, cofiwch fwrw golwg ar wefan y Swyddfa dywydd, sy’n darparu rhagolygon tywydd yn seiliedig ar god post lleol www.metoffice.gov.uk  

Hawliau Tramwy

Mae’r mwyafrif o Lwybr Dyffryn Gwy yn dilyn Hawliau Tramwy swyddogol, sy’n darparu hawl i gerddwyr i’w defnyddio, ond nid yn eu caniatáu i grwydro oddi ar y llwybr. Cafwyd hefyd ganiatâd perchnogion i ddefnyddio rhai rhannau penodol o’r llwybr. Yn ogystal, mae yna hawl newydd i grwydro ar rhai mannau a fapiwyd fel ‘cefn gwlad agored’ fel y’u diffiniwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae ‘Cefn gwlad agored’ yn golygu mynydd, gweundir, rhostir, twyndir a thir comin cyffredinol, gan gynnwys rhan fawr o Massif Pumlumon.

I ddarganfod mwy am fannau newydd o ‘gefn gwlad agored’ beth am ymweld â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Natural England

Wild garlic or ramsons fringe the path

Dilyn y Llwybr

Mae’n hawdd. Mae Llwybr Dyffryn Gwy wedi ei farcio gan arwyddion melyn crwn, ‘eog yn neidio’ disgiau a/neu arwyddion bysedd, i ddangos y ffordd. Mae arwyddion yn cael eu hailosod yn gyson, a gosodwyd arwyddion bysedd newydd, ond os oes yna arwyddion ar goll, neu os ydynt yn peri dryswch, dylech ddweud wrth y swyddogion hawliau tramwy

Sir Fynwy – Gordon Hill
Swydd Henffordd – Rob Hemblade
Powys - Ginny Cooke

Cŵn

Os oes ci yn cerdded y llwybr gyda chi, cofiwch y dylen nhw ddilyn y llwybr a pheidio â chrwydro. Mae’n drosedd i ganiatáu ci i ymosod, aflonyddu ar neu gwrso anifeiliaid, felly mae’n well ei gadw ar dennyn pan fyddwch yn crwydro drwy dir caeedig sy’n cynnwys defaid neu wartheg, neu wrth agosâi at fuarth fferm. Rydych siŵr o ddod ar draws anifeiliaid, gan gynnwys defaid, gwartheg a cheffylau ar gryn dipyn o Lwybr Dyffryn Gwy wrth iddo groesi tir amaethyddol.

Hereford cattle

Beth i’w wneud ai beidio, cŵn ac anifeiliaid

  • Symudwch yn dawel ac yn bwyllog, cadwch eich ci ar dennyn byr, a cheisiwch gerdded o amgylch anifeiliaid yn hytrach na thrwy eu canol, hyd yn oed os yw hyn yn golygu gwyro ychydig o’r llwybr.
  • Gadewch gatiau fel y maen nhw.
  • Peidiwch â dal arno i’ch ci os oes yna anifeiliaid yn ei fygwth (gwartheg fel arfer). Gadewch iddo fynd.
  • Peidiwch â mynd rhwng buwch a’i llo.
  • Peidiwch â chynhyrfu. Bydd y mwyafrif o dda a cheffylau yn stopio cyn iddynt eich cyrraedd. Os byddant yn eich dilyn, fel y maent arfer ei wneud o ran chwilfrydedd, cerddwch ymlaen yn dawel.

Gwybodaeth a Chyngor i Dwristiaid

Mae yna gronfa ddata o holl Ganolfannau Croeso ar hyd y llwybr, ynghyd â manylion cyswllt, ar adran fapiau rhyngweithiol y wefan hon. Gallant eich helpu i ddod o hyd i lety a gwasanaethau eraill yn lleol.

Bwyd

Mae yna ddigon o leoedd i gael bwyd ar hyd y llwybr, er mae’n werth cofio y bydd rhai ohonynt wedi gostwng eu horiau agor yn ystod misoedd tawelaf y gaeaf. Hir yw hanes cynnyrch lleol yn yr ardal gan gynnwys cig oen Cymreig, cawsiau, cig eidion Swydd Henffordd a seidr, oll o ansawdd da. Am wybodaeth ynghylch mannau i fwyta y tu allan i’r prif drefi, holwch yn lleol mewn Canolfan Groeso, neu fe all eich darparwr llety eich cynorthwyo. Dylech gario rhywbeth i’w yfed a’i fwyta bob amser, rhag ofn bod argyfwng. Os ydych yn dibynnu ar gyrraedd man bwyta erbyn rhyw amser penodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu amser ychwanegol i gyrraedd yno.